Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru. Mae wedi ei ddatblygu yn sgil ymgynghori gyda miloedd o breswylwyr y ddinas ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth.
Mae opsiynau cyflawni’r weledigaeth drafnidiaeth gwerth £1 – £2 biliwn yn cael eu hystyried. Nod y weledigaeth yw trawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a de ddwyrain Cymru drwy gyfres o brojectau a allai chwyldroi teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a’r cylch.
Jan
29
Comments are closed.