Mae Cyngor Caerdydd wedi lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus ‘Aer Glân Caerdydd’. Yn fwy na thebyg llygredd aer yw’r mater iechyd pwysicaf sy’n effeithio ar bobl Caerdydd heddiw, ac yn fwy penodol, grwpiau agored i niwed megis plant a’r henoed.
Mae gwaith diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gellir priodoli mwy na 220 o farwolaethau bob blwyddyn ymysg pobl 30+ oed, yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, i lygredd deuocsid nitrogen (NO2) gyda llawer mwy o ddinasyddion yn dioddef iechyd gwael o ganlyniad i ansawdd aer gwael.
Yn ogystal â cheisio lleihau effeithiau llygredd aer, mae’r ymgynghoriad hwn yn cynrychioli cyfle i ystyried sut gallwn greu dinas fwy dymunol y mae’n well a brafiach byw ynddi trwy hyrwyddo buddion iechyd dulliau teithio llesol megis beicio a cherdded.
Mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal astudiaeth fanwl ar ansawdd aer o ganlyniad i ofyniad cyfreithiol sydd wedi’i osod ar Lywodraeth Cymru, sy’n gofyn i’r Cyngor weithredu i leihau lefelau llygredd (NO2) i’r terfyn cyfreithiol sydd wedi’i nodi mewn deddfwriaeth Ewropeaidd, yn yr amser byrraf posibl.
I gael mwy o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i dudalen Aer Glân Caerdydd.
Fel un o’r ffyrdd o fynd i’r afael â llygredd aer yng nghanol y ddinas, mae’r Cyngor yn cynnal ei ail Ddiwrnod Dim Ceir ddydd Sul 12 Mai (yn yr adran Digwyddiadau isod).
Comments are closed.