Mae EVAC Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sy’n cydweithio’n agos i ddarparu cyngor a chymorth i helpu pobl a chymunedau i fod yn barod i ymdopi â digwyddiadau mawr neu argyfyngau a allai godi yng Nghaerdydd, megis llifogydd neu dywydd garw, neu ddamweiniau trafnidiaeth.
Fe gewch wybodaeth a chyngor gan gynnwys awgrymiadau ynghylch aros yn ddiogel yn eich cartref, yn eich cymuned ac yn y gwaith os bydd digwyddiad neu argyfwng.
Ein prif nodau ar gyfer y wefan hon yw:
- Darparu gwybodaeth ynghylch sut i baratoi ac ymateb i argyfyngau.
- Dweud wrthych chi sut y gallwch gael negeseuon pwysig ac esbonio sut y caiff y rhain eu cyfleu ichi.
- Darparu mapiau a gwybodaeth ategol er mwyn ichi weld lle ydych yn rhwydd a ble i fynd os bydd digwyddiad mawr.