Edrychwch ar bob senario i gael gwybodaeth am sut i baratoi eich hun. Mae’r cyngor yn cynnwys awgrymiadau ymarferol i’w hystyried cyn ac ar ôl i ddigwyddiad daro.
Byddwch yn barod
Sicrhewch eich bod yn gwybod beth i’w wneud
Damwain Drafnidiaeth Fawr
Gall damwain trafnidiaeth fawr gynnwys ffyrdd, rheilffyrdd a thrafnidiaeth awyr. Gall hyn achosi oedi hir ar siwrneiau yn ogystal ag anafiadau posibl i’r bobl dan sylw.
- Gwirio traffig a gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus cyn i chi deithio.
- Gwnewch yn siŵr fod gan eich car becyn argyfwng.
- Peidiwch â gwneud siwrneiau diangen yn ystod tywydd garw.
Ble i gael mwy o wybodaeth a chyngor
- Am fwy o ddiweddariadau traffig gwiriwch https://traffig.cymru/ neu AA Traffic News
- Am ddiweddariadau trenau gwiriwch National Rail neu Transport for Wales
- Mae Learn 2 Live yn rhoi cyngor i fyfyrwyr a phobl ifanc am yrru’n ddiogel a chanlyniadau gyrru peryglus.
- Mae gan The Royal Society for the Prevention of Accidents (RoSPA) lawer o wybodaeth, cyngor ac adnoddau am yrru’n ddiogel.
- Mae gan Road Safety GB gyngor am gadw’n ddiogel ar y ffordd.
- Office of Rail and Road
- Sicrhewch fod gennych becyn argyfwng yn eich car rhag ofn y byddwch yn cael eich dal.
- Wrth yrru, dilynwch y- Highway Code a byddwch yn wyliadwrus. Os byddwch yn teimlo’n flinedig, tynnwch drosodd yn y man diogel agosaf a chysgwch am ychydig.
- Sicrhewch fod eich cerbyd yn cael ei gadw mewn cyflwr da a diogel i’w ddefnyddio ar y ffordd.
- Osgowch deithiau nad ydynt yn hanfodol yn ystod tywydd garw.
- Gwiriwch fod trafnidiaeth gyhoeddus yn dal i weithredu cyn i chi deithio.Gwiriwch https://traffig.cymru a National Rail.
- Bod ag o leiaf hanner tanc o danwydd cyn i chi gychwyn ar daith rhag ofn y byddwch yn sownd mewn traffig neu’n cael damwain a’ch bod yn gorfod aros am sawl awr am gymorth.
- Os yw’n bosibl, gyrrwch yn ystod y dydd, rhowch wybod i rywun i ble rydych chi’n mynd, eich llwybr ac amser cyrraedd disgwyliedig.
- Cymerwch amser i ddarganfod beth fyddai’n digwydd pe bai oedi gyda’ch hedyn ac a allech chi gael iawndal.Mae Citizens Advice yn fan cychwyn da.
- Edrych ar wefannau newyddion lleol a gwrandewch ar orsafoedd radio lleol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am amodau traffig.
- Cadwch draw o’r ardal yr effeithir arni os oes modd.
Seiber-ddiogelwch
Mae’r rhyngrwyd yn rhan fawr o’n bywydau ac mae llawer ohonom yn mewnbynnu gwybodaeth bersonol ar-lein fel cyfeiriadau e-bost a manylion cardiau credyd.
Mae hyn yn golygu bod llawer o gyfleoedd i’n manylion gael eu cyrchu a’u camddefnyddio gan bobl eraill.
I atal hyn, dyma rywfaint o gamau syml y gallwch eu cymryd er mwyn cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel ar-lein:
- Defnyddiwch gyfrinair cryf sy’n cynnwys llythrennau a rhifau ar hap
- Sefydlwch ddilysiad dau ffactor (D2F) neu ddilysiad aml-ffactor (DAF) ar eich cyfrifon pwysicaf (Bancio, E-bost ac ati.)
- Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar eich cyfrifiadur, eich llechen neu eich ffôn.
- Dylech ddileu unrhyw e-byst amheus.
- Cyfyngwch y wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Arbedwch unrhyw ffotograffau a dogfennau pwysig wrth gefn
Lle i gael rhagor o wybodaeth a chyngor am Seiber-ddiogelwch
- Get Safe Online yw ffynhonnell fwyaf blaenllaw y DU o wybodaeth ddiduedd, ffeithiol a hawdd ei deall am ddiogelwch ar-lein.
- BBC Web Wise – mae ganddo wybodaeth am ddiogelwch ar y rhyngrwyd yn ogystal ag awgrymiadau cyffredinol am ddiogelwch ar-lein (Hefyd mae BBC Web Wise yn fan cychwyn da os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n hoffi dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur).
- Mae Barclays wedi gwneud fideo da sy’n dangos pa mor rhwydd yw i ddatgelu gormod o wybodaeth ar-lein.
- Cyber Aware yw gwefan Llywodraeth y DU sy’n hyb ar gyfer gwybodaeth am seiber-ddiogelwch.
- Cyber Essentials yw gwefan Llywodraeth y DU sy’n rhoi cyngor er mwyn gwella eich diogelwch ar-lein.
- The National Business Crime Centre – mae ganddo wybodaeth ar gyfer busnes am seiber-ddiogelwch yn ogystal â llawer o risgiau eraill.
- Mae Canolfan Seibergadernid Cymru yn bodoli i gefnogi a diogelu busnesau a sefydliadau trydydd sector yn y wlad yn erbyn seiberdrosedd
Byddwch yn barod ac osgowch ymosodiad Seiber-ddiogelwch
- Defnyddiwch gyfrinair cryf sy’n cynnwys geiriau, rhifau a symbolau ar hap, sydd o leiaf 12 nod o hyd. Peidiwch â defnyddio enwau teuluol, pen-blwyddi neu leoedd sy’n bwysig i chi. Newidiwch gyfrineiriau yn fisol.
- Cytunwch i ddiweddariadau meddalwedd yr ymddiriedir ynddynt oherwydd y bydd y rhain yn amddiffyn eich dyfeisiau rhag firysau a hacwyr (rhaglenni a phobl a fydd yn ceisio cael mynediad at eich manylion a’u dwyn).
- Amddiffynnwch unrhyw ffotograffau a dogfennau pwysig wrth gefn ar ffôn gof USB allanol neu ar wasanaeth cwmwl.
- Gosodwch feddalwedd gwrth-firws
- Dylech ddileu unrhyw e-byst amheus. Os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, siŵr o fod dyna yw’r achos.
- Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch cyfrifiadur ac yn derbyn galwad neu e-bost yn dweud hynny, dylech drin yr alwad yn ofalus oherwydd mae hyn yn debygol o fod yn sgâm. Rhowch y ffôn i lawr neu peidiwch â chlicio ar y ddolen yn yr e-bost a ffoniwch eich darparwr rhyngrwyd neu arbenigwr cyfrifiaduron.
- Diogelwch gyfrinair eich ffôn symudol neu eich cyfrifiadur.
- Os ydych yn defnyddio rhwydwaith diwifr mewn lle cyhoeddus, sicrhewch fod y cysylltiad yn ddilys ac yn ddiogel.
- Cyfyngwch y wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae Barclays wedi gwneud fideo defnyddiol ar seiber-ddiogelwch sy’n dangos pa mor rhwydd yw i ddatgelu gormod o wybodaeth ar-lein.
Beth i’w wneud os byddwch yn credu eich bod wedi dioddef Trosedd Seiber
- Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef seiber drosedd, man cychwyn da er mwyn cael cymorth a chyngor yw Action Fraud.
- Os ydych yn credu y cymerwyd eich manylion banc, cysylltwch â’ch banc ar unwaith gan ddefnyddio dull diogel. Byddwch yn amheus o unrhyw ‘alwadau diofyn’ ar y ffôn neu’r e-bost.
- Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef achos o seiber-ddiogelwch, newidiwch eich holl gyfrineiriau ar eich cyfrifon ar-lein.
- Sganiwch eich dyfais a’i glanhau neu diffoddwch eich cyfrifiadur a gofynnwch i rywun proffesiynol ei wneud drosoch chi.
- Os bydd wedi digwydd ar gyfrifiadur gwaith neu ysgol rhowch wybod i berchnogion y system rhag ofn yr effeithiwyd ar gyfrifiaduron eraill.
101 - Non emergency (Police)
Colli cyfleustodau a thoriadau pŵer
Mae colli cyfleustodau yn golygu colli trydan, nwy a dŵr i’ch cartref. Gall hyn ddigwydd unrhyw bryd, yn aml heb rybudd. Er y bydd cwmnïau cyfleustodau yn gweithio’n gyflym i ddatrys unrhyw broblemau, gallai olygu y gallech gael eich gadael heb drydan, nwy na dŵr am nifer o oriau. Er mwyn bod yn barod i ymdopi â cholli cyfleustodau, mae rhai camau hawdd y gallwch eu cymryd.
- Cael tortsh sy’n hawdd ei gyrraedd yn y tywyllwch.
- Rhowch wybod i’ch cyflenwyr cyfleustodau os ydych yn dibynnu ar gyflenwad parhaus o bŵer ar gyfer offer meddygol neu offer symudedd.
- Gwybod lle mae’r pwyntiau diffodd cyfleustodau a sut i’w diffodd yn ddiogel.
Ble i gael mwy o wybodaeth a chyngor
- The Met Office sydd â’r cyngor gorau ar beth i’w wneud mewn toriad pŵer.
- Mae gan The British Red Cross Emergencies app gyngor da ynglŷn â cholli cyfleustodau yn ogystal â pheryglon eraill.
Rhifau allweddol i’w galw os bydd pŵer sylweddol neu golli cyfleustod:
- Colli Trydan: 105 neu 0800 6783 105 (Western Power Distribution)
- Colli Nwy: 0800 111 999 (British Gas) (Wales and Western Utility)
- Colli Dŵr: 0800 052 0130 (Dŵr Cymru)
- Cadwch dortsh yn rhywle hawdd dod o hyd iddi yn y tywyllwch.
- Os oes arnoch angen cyflenwad parhaus o bŵer ar gyfer offer meddygol neu offer symudedd, rhowch wybod i’ch cyflenwyr cyfleustodau, gan y byddant yn gallu eich helpu os bydd toriad yn y pŵer.
- Holwch eich cymdogion i weld a ydyn nhw wedi colli eu cyfleustodau hefyd, gallai fod yn broblem gyda’ch cyflenwad.
- Os oes gennych doriad pŵer, ffoniwch 105 i’w adrodd.
- Cadwch ddrysau’r oergell a’r rhewgell ar gau yn ystod toriad pŵer i atal bwyd rhag difetha. Bydd oergelloedd yn cadw bwyd yn oer am tua 4 awr, a bydd rhewgell lawn yn cadw bwyd wedi’i rewi am tua 48 o oriau.
- Os ydych chi’n meddwl bod gollyngiad nwy wedi bod, agorwch ddrysau a ffenestri, caewch y cyflenwad nwy ar y pwynt terfyn, gadewch eich cartref i gael awyr iach, ffoniwch 0800 111 999 i adrodd am y gollyngiad.
- Peidiwch â defnyddio barbeciws siarcol na nwy, offer gwresogi gwersylla na generaduron cartref dan do nac mewn garejys. Maent yn gollwng carbon monocsid, sy’n berygl bywyd.
- Diffoddwch a datgysylltwch unrhyw eitemau trydanol nad ydynt yn hanfodol e.e. sychwyr gwallt neu offer gwneud tost i atal unrhyw ddifrod pan ddaw’r pŵer yn ôl ymlaen.
- Os yw eich dŵr wedi cael ei ddiffodd, rhedwch eich tapiau am ychydig funudau cyn i chi yfed unrhyw faint o’r dŵr.
- Taflwch unrhyw fwyd sydd wedi’i ddifetha mewn oergelloedd a rhewgelloedd.
- Arhoswch 10 i 15 munud cyn ailgysylltu unrhyw eitemau trydanol a pheidiwch â chysylltu pob un ohonynt ar unwaith.
- Ailosodwch eich larymau, amseryddion awtomatig a’ch clociau.
Llifogydd
Gall glaw trwm achosi llifogydd helaeth a all achosi aflonyddwch i draffig yn ogystal â difrod i’ch cartref. Mae glaw trwm yn debygol o ddod yn fwy cyffredin dros y blynyddoedd i ddod oherwydd newid yn yr hinsawdd.
Er mwyn amddiffyn eich hun a’ch cartref rhag difrod a achoswyd gan law trwm a llifogydd, gallwch ddilyn y camau syml hyn.
- Cofrestrwch am rybuddion o lifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- Edrychwch ar ragolygon y tywydd a rhybuddion o lifogydd yn rheolaidd
- Symudwch ddogfennau pwysig ac eitemau gwerthfawr megis ffotograffau i rywle uwch yn eich tŷ, yn ddelfrydol i fyny’r grisiau.
- Gwiriwch fod gennych ddigon o yswiriant ar gyfer eich cartref a’ch cerbyd.
- Osgowch gerdded neu yrru trwy ddŵr llifogydd oherwydd y gall 15 centimetr achosi oedolyn i syrthio a gall 60 centimetr olchi car i ffwrdd.
Lle i gael rhagor o wybodaeth a chyngor am lifogydd
- Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r brif ffynhonnell gwybodaeth am lifogydd yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am anfon rhybuddion am lifogydd yn ogystal â gweithredu ffordd o leihau llifogydd.
- Iechyd Cyhoeddus Cymru – Gall llifogydd effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, yn y tymor byr neu’r tymor hwy
- Mae gan Know Your Flood Risk wybodaeth dda am sut i lanhau ar ôl llifogydd.
- Mae National Flood Forum yn elusen sy’n rhoi cyngor a chymorth i gymunedau sydd mewn perygl o lifogydd.
- Mae gan Yr Asiantaeth Safonau Bwyd gyngor ar ddiogelwch bwyd ar ôl llifogydd.
- Mae gan Flood Guidance fwy o wybodaeth am ganllawiau ar lifogydd ar gyfer aelwydydd a busnesau.
- Gall y Met Office roi cyngor ar amddiffyn eich eiddo ac ymateb i berygl o lifogydd.
- Nod Deddf Rheoli Dŵr a Llifogydd 2010 yw darparu rheolaeth well ar y perygl o lifogydd i bobl, cartrefi a busnesau er mwyn helpu i ddiogelu grwpiau cymunedol rhag llifogydd.
- Cofrestrwch am rybuddion o lifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- Edrychwch ar ragolygon y tywydd gan y Swyddfa Dywydd a rhybuddion o lifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Ystyriwch brynu casgen ddŵr er mwyn storio dŵr glaw. Nid yn unig mae hyn yn dda ar gyfer dyfrio eich gardd neu olchi eich car yn ystod tywydd sych, ond os caiff ei gwagio cyn rhagolygon o law trwm, mae’n golygu y bydd yn lleihau dŵr wyneb lleol a’r maint sy’n cyrraedd yr afonydd a fydd o bosibl yn helpu i leihau llifogydd.
- Dilynwch y newyddion diweddaraf am ragolygon y tywydd a rhybuddion o lifogydd.
- Symudwch gerbydau allan o ardaloedd a allai gael llifogydd.
- Llenwch y bath â dŵr, rhag ofn eich bod yn colli cyflenwad o ddŵr glân yn ystod llifogydd.
- Symudwch ddogfennau pwysig ac eitemau gwerthfawr megis ffotograffau i rywle uwch yn eich tŷ, yn ddelfrydol i fyny’r grisiau.
- Ewch i weld cymdogion a pherthnasau sy’n agored i niwed er mwyn eu helpu i baratoi.
- Rhowch bwysau ar unrhyw orchuddion tyllau archwilio yn eich cartref neu’n agos ato.
- Gosodwch unrhyw offer amddiffyn yn erbyn llifogydd ar eich eiddo.
- Cliriwch ddraeniau a gylïau o ddail.
- Edrychwch ar rybuddion o lifogydd ar wefannau newyddion lleol a gwrandewch ar orsafoedd radio lleol er mwyn cael y newyddion diweddaraf.
- Osgowch gerdded neu yrru trwy ddŵr llifogydd oherwydd y gall 15 centimetr achosi oedolyn i syrthio a gall 60 centimetr olchi car i ffwrdd.
- Os na allwch adael yr adeilad, symudwch i fyny’r grisiau yn eich cartref i ffwrdd o ddŵr llifogydd, ewch â’ch anifeiliaid anwes a digonedd o gyflenwadau gyda chi.
- Os ewch yn sownd, arhoswch ger ffenestr lle y gellir eich gweld.
- Diffoddwch gyflenwadau dŵr, nwy a thrydan cyn gynted ag y bydd dŵr llifogydd yn dod i mewn i’ch eiddo.
- Gall dŵr llifogydd gynnwys carthion a phethau miniog felly osgowch ddod i gysylltiad â dŵr llifogydd a golchwch eich dwylo’n rheolaidd. Peidiwch â chaniatáu plant i chwarae mewn dŵr llifogydd.
- Os bydd rhaid i chi gerdded trwy ddŵr llifogydd, gwisgwch ddillad diddos a byddwch yn ymwybodol o bethau miniog a gorchuddion tyllau archwilio sydd ar agor.
- Cadwch anifeiliaid anwes dan do ac i ffwrdd o ddŵr llifogydd.
- Cadwch unrhyw archollion neu friwiau agored yn lân a’u hatal rhag dod i gysylltiad â dŵr llifogydd. Gwisgwch blasteri diddos.
- Gall llifogydd fod yn adeg bryderus sy’n peri straen. Cymerwch amser i ofalu amdanoch chi eich hun a cheisio cymorth proffesiynol os bydd angen. Mae Disaster Action yn fan cychwyn da ar gyfer arweiniad a chyngor.
- Arhoswch nes bod y gwasanaethau brys yn dweud wrthoch ei fod yn ddiogel dychwelyd i’ch cartref.
- Gall llifogydd achosi difrod strwythurol a halogi, felly byddwch yn ofalus pan fyddwch yn dychwelyd i’ch cartref (i gael rhagor o wybodaeth am sut i lanhau eich cartref yn ddiogel ar ôl llifogydd gweler Know Your Flood Risk)
- Peidiwch â rhoi nwy neu drydan ymlaen hyd nes y caiff ei wirio gan rywun proffesiynol.
- Os byddwch yn sylwi ar newid i liw, blas neu aroglau eich dŵr tap, peidiwch â’i ddefnyddio a chysylltwch â Dŵr Cymru.
- Os na allwch aros yn eich cartref ar ôl i ddŵr y llifogydd gilio, sicrhewch eich bod yn gwneud eich cartref yn ddiogel trwy gloi drysau a ffenestri.
- Osgowch fwyta bwyd a dyfwyd ar randir neu mewn gardd lle y bu llifogydd oni bai y cafodd ei goginio.
Teithio ar y ffordd
Gall teithiau mewn car gael eu heffeithio’n aml gan ddamweiniau ffordd, car yn torri lawr a thywydd garw, gallai hyn achosi oedi sy’n para am nifer o oriau.
Gallai dilyn y camau syml hyn helpu i atal achosion o gar yn torri lawr a’ch helpu i aros yn gyfforddus yn eich car os byddwch yn cael eich dal.
- Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd.
- Sicrhewch fod eich cerbyd yn cael ei gadw mewn cyflwr da a diogel i’w ddefnyddio ar y ffordd.
- Osgowch fynd allan mewn tywydd garw.
- Rhowch becyn argyfwng car at ei gilydd.
- Sicrhewch fod gennych o leiaf hanner tanc o danwydd bob amser.
Mae gan Met Office gyngor da ar sut y gallwch leihau’r risg y bydd eich car yn torri i lawr a sut y gallwch baratoi eich car ar gyfer argyfyngau.
Mae gan AA a RAC gyngor ar sut i sicrhau fod eich car yn addas ar gyfer y ffordd ac yn ateb cwestiynau yn ymwneud â cheir a ofynnir yn aml.
Mae gan Think! wybodaeth dda am aros yn ddiogel fel gyrrwr neu feiciwr.
- Gwiriwch ragolygon y tywydd a pheidiwch â theithio mewn tywydd garw oni bai ei fod yn hanfodol.
- Sicrhewch fod eich cerbyd yn cael ei gadw mewn cyflwr da a diogel i’w ddefnyddio ar y ffordd.
Gwiriwch:
- Lefelau olew, dŵr, hylif brêc ac oerydd a llenwch nhw os bydd angen.
- Pwysau teiars.
- Cyflwr cyffredinol a dyfnder gwadn eich teiars.
- Batri car.
- Golau i gyd yn gweithio a’u cadw’n lan.
Crëwch becyn offer car a’i roi yn eich car:
Hanfodol
- Bocs cymorth cyntaf
- Map y ffordd
- Cot sy’n dal dŵr
- Byrbrydau a dŵr
- Fflachlamp
- Sach gysgu
- Teiars sbâr a/neu offer trwsio twll mewn teiar
- Esgidiau cerdded neu esgidiau cadarn
- Ffôn symudol â batri llawn
- Triongl adlewyrchol neu siaced lachar
Yn enwedig ar gyfer y gaeaf
- Brwsh
- Rhaw
- Dillad cynnes, côt, het, menig ac ati
- Cadwynau teiars
- Crafwr rhew
- Fflasg boeth â diod cynnes
Efallai yr hoffech hefyd ystyried:
- Ceblau cychwyn
- Sbectol haul
- Bagiau plastig (bagiau bin)
- Papur newydd i insiwleiddio
- Offer bach
- Bylbiau sbâr ar gyfer goleuadau’r car
- Yn ystod tywydd garw, teithiwch dim ond pan mae’n angenrheidiol.
- Osgowch ffyrdd wedi’u gorlifo, gall ddŵr fod lawer yn ddyfnach nag y mae’n edrych.
- Osgowch hydroplanu- sy’n digwydd pan fydd y dŵr o flaen eich teiars yn cronni’n gyflymach nag y gall pwysau eich car ei wthio allan o’r ffordd. Gallai hyn achosi i’r cerbyd sgrialu. Os ydych yn dechrau sgidio tynnwch eich troed oddi ar y cyflymydd yn araf nes bod y car yn arafu a’ch bod yn gallu teimlo’r ffordd eto, peidiwch â brecio na throi’n sydyn.
- Ystyriwch gymryd gwersi gyrru wrth loywi oherwydd efallai eich bod wedi llithro i mewn i arferion drwg.
- Mae gan Driver and Vehicle Licensing Agency (DVLA) fwy o wybodaeth am yrru’n ddiogel.
Os ydych yn bwriadu teithio dramor, dyma rai gwefannau defnyddiol i edrych arnynt:
- Foreign Commonwealth Office Travel Advice Cymerwch eich amser i ddeall risgiau a rheolau’r wlad rydych yn ymweld â hi cyn i chi fynd.
- Drink Aware Gall alcohol sy’n cael ei weini dramor fod yn llawer cryfach nag yn y DU ac rydych mewn lle anghyfarwydd, mae’n dda cael hwyl ond byddwch yn ymwybodol o’r peryglon.
- HM Government yr holl wybodaeth y gallech fod ei hangen i baratoi ar gyfer teithio dramor.
- British Embassies rhestr o holl Lysgenadaethau Prydain yn fyd-eang, gwnewch nodyn o leoliad y llysgenhadaeth yn y wlad yr ydych yn ymweld â hi.
Tywydd Garw
Gall tywydd garw fod ar ffurf stormydd a gwyntoedd cryfion, neu dywydd poeth neu oer eithafol. Gall yr amodau hyn darfu’n sylweddol ar deithio a chael effeithiau difrifol ar eich iechyd.
Mae tywydd garw yn debygol o fod yn fwy cyffredin yn y dyfodol agos oherwydd y newid yn yr hinsawdd, felly bydd cymryd amser i baratoi yn awr yn eich helpu chi a’ch teulu i aros yn ddiogel mewn tywydd garw.
Digwyddiadau Pandemig
Novel Coronafeirws (COVID-19)
Diweddariadau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill y DU i fonitro’r sefyllfa Coronafeirws a rhoi ymateb a gynllunnir ar waith, gyda mesurau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Tudalen Cyngor Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tudalen Cyngor Coronafeirws Llywodraeth y DU [Saesneg yn unig]
Mae egwyddorion cyffredinol y gallwch eu dilyn i helpu atal lledaenu feirysau anadlol megis Coronafeirws Newydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Golchi eich dwylo yn aml gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad. Defnyddiwch ddiheintydd dwylo sy’n seiliedig ar alcohol ac sy’n cynnwys o leiaf 60% alcohol os nad oes sebon a dŵr ar gael
- Osgoi cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn heb olchi eich dwylo.
- Osgoi cysylltiad agos â phobl nad ydynt yn teimlo’n dda
- Os ydych yn teimlo’n sâl, arhoswch gartref a pheidiwch â mynd i’r gwaith neu’r ysgol
- Gorchuddiwch eich ceg wrth besychu a defnyddiwch hances i disian, yna taflwch yr hances yn y bin, a golchi’ch dwylo ar unwaith
- Glanhau a diheintio pethau ac arwynebau rydych yn eu cyffwrdd yn aml gartref ac yn y gwaith
Posteri Cyngor i’r Cyhoedd a Busnesau
Sefydliad Iechyd y Byd – Tudalen Coronafeirws COVID-19 [Saesneg yn unig]
Ar y wefan hon cewch wybodaeth a chanllaw gan Sefydliad Iechyd y Byd ynglŷn ag ymlediad presennol coronafeirws (COVID-19) a gofnodwyd yn gyntaf gan Wuhan, China, ar 31 Rhagfyr 2019. Mae adnoddau defnyddiol yn cynnwys:
- Fideos Cyngor i’r Cyhoedd [Saesneg yn unig]
- Chwalu’r Celwyddau [Saesneg yn unig]
DIWEDD.
————
Ffliw Pandemig
Mae Ffliw Pandemig Influenza yn wahanol i ffliw tymhorol gan ei fod yn feirws ffliw newydd na fydd gan y rhan fwyaf o bobl imiwnedd iddo. Mae hyn yn golygu ei fod yn lledaenu i nifer fawr o bobl yn gyflym iawn. Gall y ffliw gael ei drosglwyddo drwy’r aer a chyswllt corfforol â pherson sydd wedi’i heintio.
Gall y ffliw effeithio ar bawb, yn enwedig pobl hyn, pobl sy’n sâl a’r rhai ifanc iawn a gall gael canlyniadau iechyd difrifol. Er mwyn lleihau eich risg o gael y ffliw, mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd.
- Ystyriwch gael brechiad rhag y ffliw
- Osgowch gysylltiad â’r rhai sydd â’r ffliw
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd gyda dŵr cynnes a sebon neu hylif glanhau dwylo
- Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa [Saesneg yn unig]
- Gwyliwch allan am a dilynwch advice pan fyddant yn digwydd
Cyn achos o ffliw pandemig
- Ystyriwch gael eich brechu rhag y ffliw, gallwch gael hyn yn eich meddygfa neu’ch fferyllfa leol
- Ceisiwch gadw’n heini a bwyta’n iach
- Gofalwch fod eich holl frechiadau yn gyfredol
- Osgowch gysylltiad â’r rhai sydd â’r ffliw
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd gyda dŵr cynnes a sebon neu os nad ydynt ar gael, hylif glanhau dwylo
- Glanhewch arwynebau, fel ffonau, allweddellau a dolenni drysau yn rheolaidd i gael gwared â germau
- Sicrhewch fod gennych gyflenwad parhaus o gyffuriau presgripsiwn yn eich cartref rhag ofn na fyddwch yn gallu mynd allan i’w casglu.
- Ystyriwch beth y byddech chi’n ei wneud o ran gofal plant pe bai meithrinfa neu ysgol eich plant wedi cau er mwyn atal y ffliw rhag lledu.
- Osgowch gyffwrdd eich ceg, llygaid a thrwyn, oni bai eich bod wedi glanhau eich dwylo yn ddiweddar
Yn ystod achos
- Catch it, Bin it, Kill it
- Osgowch gysylltiad â’r rhai sydd â’r ffliw
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd gyda dŵr cynnes a sebon neu hylif glanhau dwylo
- Cael ffrind ffliw, rhywun sy’n gallu casglu bwyd a meddyginiaeth i chi fel y gallwch gael eich ynysu oddi wrth y cyhoedd a’i atal rhag lledu
- Cadwch stoc o feddyginiaeth annwyd dros y cownter a meddyginiaethau rhag y ffliw
- Ni fydd gwrthfiotigau yn cael unrhyw effaith ar y ffliw gan mai firws ydyw ac nid yw gwrthfiotigau ond yn lladd bacteria
- Gwyliwch allan am a dilynwch gyngor pan fydd yn cael ei roi
Am fwy o wybodaeth
- Mae gan Public Health Wales wybodaeth fanylach am y ffliw a sut y gellir ei atal
- Catch it, Bin it, Kill it yw’r ffordd yr argymhellir i leihau ymlediad y ffliw.
- Mae wefan NHS yn ateb cwestiynau cyffredin ynglŷn â brechlyn y ffliw.
- Cyngor GIG ar gyfer how to stay healthy and well in winter
I gael gwybod mwy am glefydau heintus fel y ffliw, gweler y wefan World Health Organisation (WHO).
Arllwysiadau neu lygredd amgylcheddol
Gallai arllwysiadau ddod o:
- Ffatri e.e. gollyngiad cemegion
- Gollyngiad o gwch e.e. arllwysiad olew
- Tancer sydd mewn damwain ar y ffordd ac yn gwacau’r hyn sydd ynddo i gyrsiau dŵr.
Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y gwasanaethau brys yn ymdrin â’r digwyddiad ac ni fydd effaith arnoch chi. Fodd bynnag, os ydych yn y man lle mae arllwysiad neu ollyngiad, mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i gadw’ch hun a phobl eraill yn ddiogel.
- Symud pawb o’r man
- Peidio â chyffwrdd â’r arllwysiad neu’r cemegyn
- Galw’r gwasanaethau brys
- Gofyn am ofal meddygol cyn gynted ag sy’n bosibl os ydych wedi dod i gysylltiad â’r sylwedd neu os ydych yn teimlo’n sâl.
- Cydweithredu â’r gwasanaethau brys.
Galwch Cyfoeth Naturiol Cymru i roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol neu arllwysiad.
Os digwydd arllwysiad
- Os yw’r arllwysiad dan do, ceisiwch fynd allan o’r adeilad heb fynd trwy’r man sydd wedi’i halogi. Os nad yw hyn yn bosibl symudwch mor bell i ffwrdd o’r arllwysiad ag sy’n bosibl a chysgodi yn y fan a’r lle.
- Cadwch i ffwrdd o unrhyw ddioddefwyr hyd nes y canfyddir beth yw’r arllwysiad; fe all fod yn beryglus.
- Peidiwch â defnyddio’r man hyd nes y dywedir ei fod yn ddiogel.
Ar ôl arllwysiad neu lygredd amgylcheddol
- Peidiwch â gadael y man diogel nes bod y gwasanaethau brys yn dweud wrthych ei bod yn ddiogel gwneud hynny.
- Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a chyngor oddi wrth y gwasanaethau brys, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer dihalogi os oes angen.
- Peidiwch â chasglu nwyddau sydd wedi’u golchi i’r lan ar ôl damweiniau neu arllwysiadau ar y môr gan y gallen nhw fod yn beryglus i iechyd.
Mae gan y Sefydliad Rheoli Morol ragor o wybodaeth ynghylch sut yr ymdrinnir ag arllwysiadau ar y môr.
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wybodaeth fanylach am yr ymateb brys i arllwysiadau.
Mae’n rhaid i unrhyw safleoedd yn y Deyrnas Unedig sy’n trin sylweddau a allai fod yn beryglus lunio cynllun Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr (COMAH). Mae hyn yn sicrhau bod y safleoedd hyn yn gwneud popeth posibl i atal damweiniau mawr ac os ydynt yn digwydd bod gan y safle y gweithdrefnau cywir ar waith i ymdrin â’r sefyllfa. Gallwch ddarllen rhagor am reoliadau COMAH ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Terfysgaeth
Lefelau bygythiad presennol y DU – SYLWEDDOL
Mae terfysgwyr yn ceisio creu ofn er mwyn tarfu ar fywydau arferol pobl a busnesau ac nid yw hyn yn dderbyniol. Er mwyn helpu i leihau risg ymosodiad terfysgol, mae 5 pheth hawdd y gallwch eu gwneud:
- Parhau i fod yn wyliadwrus ac adrodd unrhyw weithgaredd amheus i’r llinell gymorth gwrth derfysgaeth. Mae’r ffilm fer hon yn dangos i chi beth i edrych allan amdano.
- Mewn argyfwng, neu os oes angen cymorth brys arnoch gan yr heddlu, dylech bob amser ffonio 999. Gallwch hefyd roi gwybod am weithgaredd amheus trwy gysylltu â’r heddlu yn gyfrinachol ar 0800 789 321. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei fonitro 24 awr y dydd.
- Os cewch eich dal mewn ymosodiad terfysgol, cofiwch RHEDWCH, CUDDIWCH, DYWEDWCH
- Dysgwch fwy drwy E-Ddysgu Ymwybyddiaeth o’r Ddeddf am ddim. Parhewch â’ch taith yn dysgu am yr arferion gorau i helpu i wrthsefyll terfysgaeth a gwella eich ymwybyddiaeth o ddiogelwch.
- Gweld, Gwirio a Rhoi Gwybod (SCaN): hyfforddiant am ddim gyda’r nod o helpu busnesau a sefydliadau i wneud y mwyaf o ddiogelwch gan ddefnyddio eu hadnoddau presennol. Eich pobl yw eich mantais fwyaf o ran atal a mynd i’r afael ag ystod o fygythiadau, gan gynnwys gweithgarwch troseddol, protestio anghyfreithlon a therfysgaeth.
Mae Protect UK yn rhan o’r Gynghrair Gwrth-derfysgaeth*, partneriaeth sy’n dod â gwybodaeth plismona, y sector preifat a’r sector cyhoeddus at ei gilydd i wrthsefyll terfysgaeth. Mae rhannu gwybodaeth wedi bod wrth wraidd y gwaith sy’n cael ei wneud, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio profiad ac ymchwil i ddarganfod dulliau arloesol o roi gwybod i fusnesau a’r cyhoedd yn well am y bygythiadau dan sylw, a sut i ddiogelu yn eu herbyn.
*Yn cynnwys y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol (NaCTSO), y Swyddfa Gartref ac Pool Reinsurance.
Plismona Gwrth-derfysgaeth – Gweithio i gadw pobl yn ddiogel rhag terfysgaeth
Y Ganolfan Amddiffyn Seilwaith Cenedlaethol – rôl CPNI yw diogelu diogelwch cenedlaethol y DU trwy helpu i leihau pa mor agor yw’r DU i amrywiaeth o fygythiadau fel Terfysgaeth, Ysbïo a Difrod.