: 03/08/2019
: 2:30 pm - 6:00 pm
: Stadiwm Principality
Bydd Manchester United yn chwarae yn erbyn AC Milan yn y Stadiwm Principality ar 3 Awst yng ngêm gyntaf Cwpan y Bencampwriaeth Ryngwladol (CPRh) yng Nghymru.
Y gêm hon fydd unig gêm cyn tymor Manchester United yn Ewrop cyn tymor 2019/20 yr Uwch Gynghrair a hon fydd eu trydedd gêm a’u gêm olaf yn y CPRh yn 2019.
Bydd y CPRh yn dechrau ar 16 Gorffennaf ac yn cynnwys 12 clwb o’r radd flaenaf yn chwarae mewn 18 gêm ledled yr UD, Ewrop ac Asia. Bydd pob tîm yn chwarae 3 gêm a bydd y tîm gyda’r nifer mwyaf o bwyntiau’n ennill y tlws.
Mae’r CPRh yn nodweddu’r hyn sydd i ddod pob tymor. Hwn fydd y cyfle cyntaf i ffans pêl-droed weld eu harwyr ar y cae a’r cyfle cyntaf i glybiau arddangos eu chwaraewyr newydd, eu rheolwyr newydd, eu tactegau newydd a’u dillad chwarae newydd.
Ar gyfer cyngor teithio a ffyrdd fydd ar gau ar y diwrnod gweler gwybodaeth ar wefan Cyngor Caerdydd
Comments are closed.