Mae partneriaeth EVAC wedi llunio mapiau i ddangos sut y câi’r ddinas ei gweld yn nhermau sectorau pe bai digwyddiad mawr yn codi.
Os bydd digwyddiad mawr, os byddwch wedi lawrlwytho’r app EVAC Caerdydd, byddwch yn derbyn neges yn syth drwy Hysbysiad Pwysig yn seiliedig ar wybodaeth gan Heddlu De Cymru, gyda diweddariadau parhaus, gan gynnwys pa ardal * neu sector(au) * i’w hosgoi, a ble i wacáu os bydd angen.
Mae EVAC Caerdydd yn fenter i amddiffyn diogelwch dinasyddion, busnesau ac ymwelwyr y ddinas drwy roi gwybod yn syth i ddefnyddwyr os bydd digwyddiad mawr yng Nghaerdydd, megis tân mawr, llifogydd, neu weithred derfysgol.
*Mae canol dinas Caerdydd a’r Bae wedi’u mapio’n gyfres o ‘Ardaloedd â chodau lliw a ‘Sectorau’ â rhifau i helpu i leoli digwyddiadau mawr a mannau gwacáu yn y ddinas.