Paratowch ar gyfer tywydd stormus
- Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd
- Cadwch gerbydau’n glir o adeiladau, coed, waliau a ffensys.
- Os yw’r pentyrrau simnai yn dal ac mewn cyflwr gwael, symudwch welyau i ffwrdd o’r ardaloedd yn uniongyrchol oddi tano.
- Tynnwch ganghennau coed sydd wedi marw fel nad ydynt yn achosi difrod mewn storm.
Yn ystod storm
- Gwnewch siwrneiau hanfodol yn unig. Os oes rhaid i chi wneud taith, byddwch yn ymwybodol o wyntoedd cryf ar ochrau llwybrau agored fel pontydd, llwybrau arfordirol neu ffyrdd agored uchel.
- Am fwy o wybodaeth am beth i’w wneud yn ystod mellt a tharanau ewch i wefan y Met Office
Ar ôl storm
- Gofalwch nad ydych yn cyffwrdd ag unrhyw geblau trydanol neu ffôn sydd wedi cael eu chwythu i lawr neu sy’n dal i hongian.
- Cysylltwch â’ch yswiriwr i roi gwybod am unrhyw ddifrod i’ch eiddo.
Comments are closed.